Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 18 Hydref 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
08:32 - 10:40 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Ann Jones (Cadeirydd) Peter Black Jocelyn Davies Janet Finch-Saunders Mike Hedges Mark Isherwood Gwyn R Price Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth John Howells, Llywodraeth Cymru Kath Palmer, Llywodraeth Cymru Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau Carla Lyne, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol , Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Marc Wyn Jones (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Dirprwy Glerc) Rhys Iorwerth (Ymchwilydd) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cafwyd ymddiheuriadau gan Ken Skates a Rhodri Glyn Thomas. Bu Joycelyn Davies yn dirprwyo ar ran Rhodri Glyn Thomas.
2. Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2013/14
Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r Gweinidog.
Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r eitemau a ganlyn:
Rhestr lawn o ddangosyddion perfformiad ar gyfer Chwaraeon Cymru;
Nodyn am pa dir sydd wedi cael ei ryddhau gan y Llywodraeth at ddibenion tai cyhoeddus ers yr etholiad;
Gwybodaeth am yr asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb a gynhaliwyd ar grantiau tai i bobl anabl;
Nodyn am faint o gyllid y mae pob awdurdod lleol yn ei gael a faint sy’n cael ei wario (gan gynnwys gwariant hanesyddol) ar grantiau cyfleusterau i’r anabl; ac
Atebion ysgrifenedig i’r cwestiynau nas gofynnwyd yn ystod y cyfarfod.
3. Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2013/14
Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r Gweinidog.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Cytunwyd ar y cynnig.
5. Ymchwiliad i Uwch Gynghrair Cymru - ystyried yr adroddiad drafft
Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân newidiadau.
6. Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor
Nododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.
7. Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl – Ystyried y dystiolaeth a’r adroddiad drafft
Bu’r Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a’r adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.
8. Papurau i'w nodi
Nodwyd y papurau.
8.1 CELG(4)-23-12 - Papur 3 - Gwybodaeth ychwanegol gan Sue Cohen
8.2 CELG(4)-23-12 - Papur 4 - Gwybodaeth ychwanegol gan yr Athro Teresa Rees
Trawsgrifiad